Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy rwydwaith genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.
Sefydlwyd Mudiad Meithrin ym 1971. Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.
Erbyn hyn, mae yna 501 o gylchoedd meithrin yn cynnig sesiynau gofal ac addysg ddyddiol ar gyfer plant 2 - 5 mlwydd oed a 49 meithrinfa dydd yn darparu gofal dydd llawn i blant ar draws Cymru. Mae 292 o gylchoedd Ti a Fi ledled Cymru sy’n cynnig cyfle gwych i blant o enedigaeth hyd at oed ysgol a’u rhieni gwrdd unwaith yr wythnos i gymdeithasu ac i rannu profiadau gyda’i gilydd mewn awyrgylch anffurfiol Gymreig. Mae’r gwasanaethau yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 19,000 o blant bob wythnos.
Mae 145 grŵp ‘Cymraeg i Blant’, sydd yn annog rhieni i gymryd y camau cyntaf tuag at gyflwyno’r Gymraeg i’w plant yn cwrdd mewn lleoliadau ar draws Cymru. Ers Ebrill 2016, mae 817 o rieni ac 860 plentyn wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn.
O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn cydweithio gyda’r asiantaeth Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau addysg leol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.
Yn ogystal, mae’r is-gwmni Cam wrth Gam, yn darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar. Gwnaed hyn drwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynlluniau hyfforddi cenedlaethol. Darperir cyrsiau hyfforddi yn seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid, aseswyr a dilyswyr mewnol ledled Cymru.
Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl, yn staff cenedlaethol a sirol ac mewn meithrinfeydd dydd, gyda 2000 o staff ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd ei hunain.
Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag awdurdodau Lleol. Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref.
1.1 Cydnabuwn fod y 1,000 Diwrnod Cyntaf ym mywyd plentyn, yn gyfnod hollbwysig sydd yn gosod y sylfaen ar gyfer datblygiad gwybodol, emosiynol ac iechyd gydol oes yr unigolyn.
1.2 Cyfeirir at y ffaith bod ymennydd plentyn yn datblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd cynnar i fod yn 75% o faint ymennydd oedolyn erbyn diwedd yr ail flwyddyn . Nodwn fod hyn yn ategu pwysigrwydd sicrhau cefnogi datblygiad sgiliau cymdeithasol, ddeallusrwydd emosiynol, sgiliau ymddygiadol cadarnhaol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.
2.1 Cefnogwn ymgyrch Lywodraeth Cymru ‘Magu Plant: Rhowch amser iddo’ . Teimlwn fod yr ymgyrch hon yn cynnig syniadau ymarferol defnyddiol ar ystod eang o bynciau rhianta. Nodwn bwysigrwydd presenoldeb digidol yr ymgyrch drwy amryw o rwydweithiau cymdeithasol er mwyn denu sylw a rhaeadru’r negeseuon pwysig hyn.
2.2 Croesawn ddyfodiad y ddeddfwriaeth fydd yn diogelu plant yn yr un modd ag oedolion, drwy gael gwared ar "gosb resymol" fel amddiffyniad am guro plentyn. Gwelwn ddefnydd theori pwtio i hyrwyddo technegau rheoli ymddygiad amgen, drwy’r ymgyrch ‘Magu Plant: Rhowch amser iddo’ yn hollbwysig yn y cyfnod hwn. Serch hynny, cynigiwn fod angen amlygu’r newidiadau cyfreithiol arfaethedig drwy’r cyfryngau, er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth eang ohonynt.
2.3 Cynigiwn y byddai gwneud cefnogaeth rhianta yn gynnig cyffredinol yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf y plentyn yn lleihau’r stigma posib o fod yn mynychu neu yn derbyn unrhyw wasanaeth. Nodwn y byddai hyn yn bosib ond wrth gynyddu gapasiti’r gweithlu i ddarparu’r gefnogaeth cyffredinol hyn.
3.1 Cytunwn fod gan dadau rôl allweddol yn natblygiad plant. Croesawn gyhoeddiad y canllaw arfer dda ‘Strategaethau ar gyfer gweithio gyda thadau’ fel rhan o ymgyrch ‘Magu Plant: Rhowch amser iddo’. Gwelwn yr angen i rannu a datblygu’r arfer dda ar draws y sector, o’r gwasanaethau iechyd cyn-geni, gwasanaethau gofal ac addysg gynnar i deuluoedd, ac i’r sector gwirfoddol sy’n darparu gweithgareddau teuluol.
4.1 Gwelwn nifer o raglenni ym maes iechyd a gofal y blynyddoedd cynnar sydd yn hyrwyddo dulliau cadarnhaol o reoli ymddygiad, ac yn benodol hyfforddiant rhaglenni ‘Blynyddoedd Rhyfeddol’ yn ardaloedd Dechrau’n Deg. Cytunwn fod cynnwys y cyrsiau hyn fel elfen o waith Dechrau’n Deg yn cael effaith bositif ar sgiliau rhianta cadarnhaol y rhieni sydd yn mynychu’r hyfforddiant a ddarperir, ac ar aelodau’r gweithlu sydd wedi medru manteisio ar yr hyfforddiant hwn.
4.2 Serch hynny, nid ydy pob rhiant, na phob gweithiwr blynyddoedd cynnar, yn cael y cyfle i fanteisio ar y gefnogaeth werthfawr hon. Nodwn yr angen i alluogi pob rhiant neu warchodwr i fanteisio cefnogaeth o’r fath. Cynigiwn y gellid gwneud hyn drwy gynnig hyfforddiant i’r gweithlu blynyddoedd cynnar ehangach i’w galluogi i gynnig y gefnogaeth hon i rieni. Nodwn hefyd yr angen i hyfforddi aelodau newydd o’r gweithlu iechyd a gofal blynyddoedd cynnar yn gyson, er mwyn eu galluogi i gynorthwyo’r rhieni yn briodol.
5.1 Cydnabuwn yr angen i wella canlyniadau ar gyfer iechyd plant yng Nghymru. Croesawn ddatblygiad rhaglen ‘Plant Iach Cymru’ , sydd yn ymrwymo i hybu iechyd a lles pob plentyn o’r cyfnod cyn-geni hyd 7 oed. Yn benodol, croesawn yr ymgais i ddatblygu dull Cymru gyfan o wyliadwriaeth ar blant. Teimlwn y bydd hyn yn hwyluso cyd-weithio rhyngasiantaethol i hybu iechyd plant a’u teuluoedd yn gynnar ym mywyd plentyn.
5.2 Croesawn hefyd cynllun ’10 cam i bwysau iach’ Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gwelwn negeseuon pwysig i weithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar rhaeadru i deuluoedd. Rydym eisoes yn cyd-weithio i hyrwyddo prif negeseuon y cynllun hwn drwy ein rhwydwaith cenedlaethol o gylchoedd Ti a Fi a grwpiau Cymraeg i Blant.
5.3 Nodwn bwysigrwydd hyrwyddo bwyta’n iach a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfnod beichiogrwydd y fam. Cyfeiriwn yn benodol at ‘Adroddiad Blynyddol Prif swyddog Meddygol Cymru 2015-16’ , sy’n nodi y dylai ymyriadau ymdrin â ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol wrth annog byw’n iach. Er y cynigir rhai enghreifftiau yn y cyhoeddiadau swyddogol a dosberthir i ddarpar rieni, cynigiwn y byddai rhannu enghreifftiau penodol o weithgareddau ac o fwydlen o ryseitiau syml o gymorth i nifer o rieni.
5.4 Cynigiwn y byddai modd adeiladu ar lwyddiant y cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy , sydd yn annog lleoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ymrwymo i hyrwyddo pwysigrwydd gweithgarwch corfforol a bwyta’n iach i’r plant lleiaf. Byddwn yn croesawi gyd-weithio rhyngasiantaethol drwy’r gweithlu iechyd a gofal blynyddoedd cynnar sydd yn darparu cefnogaeth i rieni ac i ddarpar rieni yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf i gyflawni hyn.
5.5 Nodwn le i gyd-weithio gyda phartneriaid ym maes y blynyddoedd cynnar i rannu’r negeseuon hyn yn ehangach drwy’r cyfryngau digidol a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Fyddai hyn yn cyd-fynd gydag adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru’ , sydd yn nodi bod buddsoddi mewn ymyriadau cyffredinol ar draws y boblogaeth yn gost-effeithiol ac yn hanfodol er mwyn sicrhau Cymru iach a chynhyrchiol.
6.1 Cytunwn gyda phwysigrwydd lleihau effaith andwyol materion seicogymdeithasol ar y plentyn. Nodwn yr angen i ystyried y plentyn fel rhan o’r teulu ehangach, ac o sgil-effeithiau sefyllfa’r teulu ehangach ar ddatblygiad y plentyn.
6.2 Cyfeiriwn at adroddiad diweddar gan LSE a’r Ganolfan Iechyd Meddwl yn nodi costau ariannol problemau iechyd meddwl amenedigol . Nodwyd fod cyfran uchel o’r costau hyn i’w wneud ag effeithiau negyddol ar y plentyn ac nid ar y fam yn uniongyrchol.
6.3 Yn atodol, cyfeiriwn at y diffyg mewn timoedd arbenigol yn y maes, a’r ffaith nad oes yr un uned arbenigol i gefnogi’r Fam a’r Plentyn yng Nghymru . Pryderwn fod hyn yn golygu nad ydy’r ddarpariaeth bwysig hwn ar gael yng Nghymru, nac yn y Gymraeg i’r mamau hynny sydd ei hangen.
7.1 Ceir consensws trawsbleidiol o’r angen i drechu tlodi ac i leihau effeithiau niweidiol tlodi ar ddatblygiad plant a theuluoedd. I’r perwyl hwn, cynigiwn y byddai cefnogi a hyfforddi’r sector gofal blynyddoedd cynnar i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi y tu hwnt i ardaloedd dynodedig Dechrau’n Deg yn ffordd o ymestyn cyrhaeddiad agweddau penodol o’r cynllun presennol.
7.2 Nodwn yr angen i brif-ffrydio elfennau o waith y cynllun Dechrau’n Deg. Cyfeiriwn yn benodol at gynlluniau sydd yn cefnogi rhieni a gwarchodwyr i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd eu plant megis ‘Iaith a Chwarae’, ‘Rhif a Chwarae’ a chyrsiau arbenigol pwrpasol i rieni a gwarchodwyr. Cynigiwn y byddai galluogi’r gweithlu blynyddoedd cynnar ehangach i fedru darparu’r cyrsiau hyn y tu hwnt i’r ardaloedd Dechrau’n Deg penodedig yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau addysgol dysgwyr o gefndiroedd amddifadus eraill.
1 Nodwn bwysigrwydd dilyn arweiniad y Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd, a chomisiynu ymchwil pwrpasol ar gefnogi datblygiad iaith mewn lleoliadau a theuluoedd dwyieithog yng Nghymru.
7.4 Nodwn fod sgil-effeithiau byw mewn tlodi neu anniogelwch ariannol yn cael effaith ar iechyd meddyliol teuluoedd ar draws Cymru. Croesawn felly gyhoeddiad diweddar y ‘Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol’ .
7.5 Mae gweithwyr y blynyddoedd cynnar yn dod i gyswllt gyda theuluoedd yn rheolaidd. Nodwn y byddai datblygu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, sy’n eu galluogi i adnabod y ffactorau sydd yn awgrymu anniogelwch ariannol, a’u galluogi i gyfeirio’r unigolion at gefnogaeth leol yn medru cyfrannu tuag at weledigaeth y cynllun hwn.
7.6 Nodwn bwysigrwydd sicrhau ystyriaeth benodol i blant anabl a’u teuluoedd yn y cyfnod cynnar pwysig hwn. Yn ogystal â’r straen ychwanegol mae magu plentyn anabl yn gosod ar deuluoedd, rhaid cofio bod teuluoedd yn gwynebu costau ychwanegol, ac o ganlyniad bod plant anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi ariannol .
8.1 Teimlwn yn gryf fod mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar fforddiadwy o ansawdd uchel yn cyfrannu at ddatblygiad plant a llesiant emosiynol a chymdeithasol y plant a’u teuluoedd. Nodwn bwysigrwydd sicrhau bod y rhain yn cael eu darparu yn lleol, gan fod tlodi trafnidiaeth yn rhwystro nifer o deuluoedd rhag teithio i fanteisio ar wasanaethau mewn trefi a chanolfannau canolog.
8.2 Nodwn bwysigrwydd sicrhau bod yna amrywiaeth o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar yn cynnig gwasanaethau i deuluoedd yn y 1,000 diwrnod cyntaf yn cynnwys grwpiau wythnosol i blant a’u gwarchodwyr megis grwpiau Cymraeg i Blant a chylchoedd Ti a Fi, meithrinfeydd dydd a gwarchodwyr plant ledled Cymru.
8.3 Nodwn ein bod, fel Mudiad Meithrin, yn cyfrannu tuag at ddarparu cyfleoedd eang i gefnogi datblygiad plant a’u llesiant emosiynol a chymdeithasol drwy’r rhwydwaith cenedlaethol o gylchoedd Ti a Fi a grwpiau Cymraeg i Blant. Mae’r grwpiau cymunedol wythnosol hyn yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd i gymdeithasu yn eu hardal leol.
8.4 Mae’r grwpiau a chylchoedd hyn yn cynnig amryw o gyfleodd i blant a’u rhieni/gwarchodwyr i ddatblygu ystod o sgiliau drwy’r profiadau maent yn eu derbyn yn y grwpiau a’r cylchoedd hyn. Yn aml, dyma’r cyswllt cyntaf sydd gan deuluoedd i weithwyr proffesiynol y tu allan i’r gwasanaeth iechyd yn gynnar ym mywyd eu plant. Er mwyn medru adeiladu ar yr arfer dda sydd yn bodoli, nodwn yr angen i sicrhau buddsoddiad ariannol i’r gweithlu er mwyn eu galluogi i ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau proffesiynol.
8.5 Gwelwn yr angen i ddatblygu strategaeth sydd yn sicrhau mynediad teg a chyfartal at y gwasanaethau craidd hyn. Nodwn bwysigrwydd sicrhau bod strategaeth o’r fath yn seiliedig ar hawliau plant yn ogystal ag ystyriaethau economaidd lleol a chenedlaethol.
8.6 Yn atodol, nodwn yr angen i gynllunio ar gyfer cynyddu capasiti’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn y 1,000 diwrnod cyntaf. Er mwyn gwireddu gweledigaeth Lywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae angen buddsoddiad ariannol sylweddol yn y maes.
8.7 Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y plant sy’n mwynhau’r manteision pennaf o fod yn ddwyieithog yw’r plant hynny sy’n cael eu cyflwyno i fwy nag un iaith o’u genedigaeth a chyn iddyn nhw fod yn 5 oed.
8.8 Mae gweithgareddau’r grwpiau Cymraeg i Blant yn codi ymwybyddiaeth rhieni o fanteision dwyieithrwydd cynnar ac o fuddion gofal ac addysg Gymraeg a chyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i’w plant. Ategir y gwaith gwerthfawr hwn yn y cylchoedd Ti a Fi, ac yn y cylchoedd meithrin ledled Cymru.
8.9 Nodwn yr angen i godi ymwybyddiaeth ymhlith y gweithlu iechyd megis Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd am fanteision dwyieithrwydd cynnar ac addysg cyfrwng Cymraeg. Pwysleisiwn bwysigrwydd sicrhau argaeledd y gwasanaethau hyn yn Gymraeg i bob cymuned yng Nghymru.
8.10 Pan fo amheuaeth fod gan blentyn / babi anghenion dysgu ychwanegol dylid sicrhau fod unrhyw ymyrraeth, wasanaeth neu gefnogaeth yn cael ei ddarparu yn iaith ddewisol y teulu a’r plentyn. Croesawn yr egwyddor hon yn y mesur ADY 2017, a bydd angen buddsoddiad ariannol yn y maes i sicrhau gweithlu cymwys i asesu anghenion ychwanegol plant ac i ddarparu'r gefnogaeth briodol iddynt.
9.1 Mae’n bwysig cofio nad pob rhiant neu warchodwr sydd yn medru manteisio ar wasanaethau a ddarperir yn ystod oriau gwaith arferol. Mae’r cyfnod 1,000 diwrnod cyntaf plentyn yn cynnwys cyfnodau hir ble gall y rhieni neu warchodwyr fod yn y gwaith. O ganlyniad, nid ydy’r teuluoedd hyn yn medru manteisio ar gynlluniau cefnogaeth a ddarperir yn ystod oriau ysgol yn unig.
9.2 Golyga hyn fod darparwyr gwasanaethau gofal blynyddoedd cynnar yn medru cefnogi datblygiad iaith a lleferydd, emosiynol a chymdeithasol y plentyn tra’i bod yn mynychu’r ddarpariaeth, ond nid ydynt yn medru cynnig cefnogaeth i’r teulu estynedig.
9.3 Nodwn hefyd fod oriau gwaith rhieni a gwarchodwyr yn gallu bod yn rhwystr i fynychu clinigau agored a gynhelir gan Ymwelwyr Iechyd, ac i fedru mynychu apwyntiadau ar gyfer imiwneiddio plant ble gynhelir y clinigau ar ddiwrnodau neu amseroedd penodol yn unig